Wel, bellach, tyr'd yn mlaen, Nac ofna, f'enaid mwy; Llai grym sy'n uffern dân Na dwyfol farwol glwy'; Mae'r gwaed, mae'r gwaed a gollodd Ef, Yn ucha' ei bris o fewn y nef. Mae'r orsedd wen yn rhydd, Aeth Magdalen ym mlaen; Manasseh hefyd sydd Yn seinio'r nefol gân; Hyfrydaf dôn, sŵn peraidd yw Am ddwyfol nefol waed fy Nuw. Dystêwch, elynion mwy, Rhowch le tua phen fy nhaith; Chwi roisoch imi glwy' Disymwth lawer gwaith! Ym mlaen, ym mlaen, mae'm trysor drud, Tu hwnt i derfyn eitha'r byd. O fewn Caersalem lân Mi welaf fyrdd o saint, Ddiangodd yno 'mlaen Dros fryniau mawr eu maint; Dilynaf ôl y dyrfa hon, Er dwr, a thân, a llif, a thòn. O! tyred, Arglwydd mawr, 'D oes yma ddim ond gwae, O eitha'r nen i lawr, Os na châf Dy fwynhau; Y wledd, y wledd a'm gwna yn llon Yw cael Dy wel'd y funyd hon.William Williams 1717-91 Tôn [666688]: Eagle Street (<1835) gwelir: Caned a welodd wawr Distewch elynion mwy Fy Iesu yw fy Nuw O tyred Arglwydd mawr ('Does ...) |
See, now, come along, Do not fear, my soul, any more; There is less force in hell fire Than a divine mortal wound; The blood, the blood that he shed, is Higher in price within heaven. The white throne is free, Magdalen went forward; Manasseh also is Sounding the heavenly song; The most delightful tune, a sweet sound it is About the divine heavenly blood of my God. Be silent, enemies, evermore, Give way toward my journey's end; Ye who gave gave me a wound Suddenly many a time! Onward, onward, my precious treasure is Beyond the utmost boundary of the world. Within holy Jerusalem I see a myriad of saints, Who escaped there ahead Over hills of great size; I shall follow the trace of this throng, Despite water, and fire, and flood, and wave. O come, great Lord, There is nothing here but woe, From the utmost heaven to the ground, If I do not get to enjoy thee; The feast, the feast that shall make me cheerful Is to get to see thee this minute.tr. 2021 Richard B Gillion |
|